Myfyrwyr yn mynd i’r traeth am y tro cyntaf diolch i Ysgol y Môr
Mae ein rhaglen addysg ymdrochol sydd â’r nod o gael plant i gymryd rhan mewn cadwraeth y môr wedi gweld rhai myfyrwyr yn mynd i’r traeth am y tro cyntaf yn eu bywydau yr haf hwn.
Bu i Ysgol y Môr groesawu 1,500 o fyfyrwyr o ysgolion cynradd ac uwchradd i’r ‘ystafell ddosbarth gorau ar y ddaear’ yn yr wythnosau diwethaf.
“Y nod? Yn syml. Rhoi cyfle i’r holl blant gael archwilio, ymchwilio, amddiffyn a mwynhau eu traethau yn eu ffyrdd eu hunain… (a chael llond trol o hwyl a sbri wrth gwrs!!)” – Rheolwr Addysg SAS, Dom Ferris
Mae 1 mewn 5 o bobl ifanc heb fod i’r traeth!
Fodd bynnag, o’r nifer uchel o blant, dywedodd 20 nad oeddynt wedi bod i’r traeth o’r blaen – ac yn anffodus, credwn fod hwn yn amcangyfrif ceidwadol, gan fod rhai myfyrwyr yn teimlo gormod o gywilydd i gyfaddef mai dyma oedd eu tro cyntaf. Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu bod bron i un mewn pump o blant yn genedlaethol erioed wedi bod ar draeth (Keep Britain Tidy, 2018).
Ein nod yw newid hynny, ac yn ystod y don benodol hon o sesiynau Ysgol y Môr, a oedd yn gweld mwy na 40 o ysgolion yn cymryd rhan, roeddem yn gallu darparu trafnidiaeth am ddim i nifer o ysgolion mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol ac economaidd (yn cynnwys Abertawe, Bournemouth a Manceinion).
Roedd gan y rhain, a nifer sylweddol o ysgolion eraill a fynychodd, nifer uwch na’r cyfartaledd o fyfyrwyr Premiwm Disgybl (PD), sy’n golygu bod y nifer o fyfyrwyr dan anfantais yn yr ysgol yn uwch na’r arfer (y cyfartaledd cenedlaethol yw 13.7% a 12.4% i ysgolion cynradd ac uwchradd yn eu tro). Mewn un ysgol yn unig, roedd 44% o’r mynychwyr yn fyfyrwyr PD.
Gyda’r don o sesiynau, sydd wedi’u cynnal bob haf ers 2017, rydym yn grymuso pobl ifanc i drechu materion fel yr argyfwng llygredd plastig eu hunain drwy addysg yn yr awyr agored. A diolch i 10 tîm cyflwyno Ysgol y Môr yn cynnwys 21 o gynrychiolwyr rhanbarthol ymroddedig SAS, cynhaliwyd 48 sesiwn (26 yng Nghymru a 22 yn Lloegr) ar draws 16 traeth yn y DU eleni.
Grym i’r disgyblion
Bu i’r rhaglen hyblyg hyd yn oed ganiatáu i un ysgol roi’r grym i’w disgyblion am y tro cyntaf ac arwain myfyrwyr eraill i’r cyfeiriad cywir. Bu i’r tîm hwn, o Ysgol Gynradd Knelston, sydd wedi’i lleoli ar y Gŵyr, groesawu myfyrwyr o ysgol Sea View (wedi’i lleoli mewn ardal o amddifadedd economaidd yn Abertawe) ac arwain a chyflwyno eu Hysgol y Môr eu hunain – y tro cyntaf yr ydym wedi gallu hwyluso’r math hwn o ddarpariaeth.
Yn dilyn y sesiynau, dywedodd Sal Beynon, athrawes yn Ysgol Knelston: “Roedd yn hollol wych a byddwn yn sicr yn ei wneud eto.
Roeddwn braidd yn nerfus cyn y sesiwn gan fy mod yn gwybod bod gennym sawl plentyn (yn dod o Ysgol Sea View) a oedd â phroblemau ymddygiad ond roeddynt wedi’u difyrru cymaint gan Ysgol y Môr. Roeddynt yn wych a doedd llawer ohonynt ddim eisiau gadael.”
Ymgysylltu â Llywodraeth
Er, nid y nhw oedd yr unig grŵp o fyfyrwyr a gafodd eu hysbrydoli, gydag ysgolion eraill, megis Ysgol Gynradd Nant y Moel, yn defnyddio eu sesiwn i estyn allan i’r llywodraeth, yn yr achos hwn, drwy recordio ac anfon neges o Ysgol y Môr at eu AS lleol Chris Elmore (AS Aberogwr), a ymwelodd â’r ysgol y diwrnod wedyn.
Ysgol y Môr wedi cau am yr haf
Gyda’r ymateb anhygoel o gadarnhaol, rydym bellach yn ceisio ail-lansio’r rhaglen ar gyfer blwyddyn nesaf, a fydd yn cynnwys fersiwn diweddar o’r rhaglen i fyfyrwyr Camau Allweddol 3 a 4.
Bob tymor yr haf byddwn yn cyflwyno Ysgol y Môr mewn detholiad o draethau ledled Cymru a Lloegr. Mae gennym le i 40 ysgol a 1200 o fyfyrwyr i ymweld bob blwyddyn, felly anfonwch neges atom i [email protected] i gael eich ystyried ar gyfer 2020.
Ewch draw i’n tudalen Ysgol y Môr i ddysgu mwy am y rhaglen ac i fynd ag ychydig o syniadau ‘actifydd y môr‘ gyda chi i’r traeth yr haf hwn!